Hwyl a Her yn ein Hafan hapus
Mae ein arwyddair yn adlewyrchu ein nôd yma yn Ysgol Rhyd y Llan sef creu ethos deuluol, gofalgar a’r ymdeimlad o berthyn i dîm sydd yn ei dro yn meithrin, ysbrydoli, cefnogi a herio ein disgyblion i gyd i gyrraedd eu llawn botensial. Gwneir hyn trwy ddefnyddio profiadau dysgu pleserus, ystyrlon, amrywiol a diddorol, tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth, er mwyn iddynt allu dod yn dysgwyr gydol oes mewn byd sy’n newid yn barhaus.
Mae ein datganiad gweledigaeth yn crynhoi ein datganiad cenhadaeth ac yn adlewyrchu y 4 Diben.
Bydd pob plentyn yn datblygu i fod yn :
Mae ein datganiad cenhadaeth yn dangos sut y byddwn yn gweithio tuag at gyflawni ein datganiad gweledigaeth. Mae hyn yn dangos ein ymrwymiad i agenda i ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru a’n bwriad cadarn i sicrhau fod y pedwar diben yn greiddiol i’n bywyd a’n gwaith fel ysgol.
I feithrin a hyrwyddo iechyd a llesiant ein disgyblion a’n staff i gyd, mewn amgylchedd sydd yn ddiogel, yn gefnogol ac yn ysgogol.
I ymgysylltu’n llawn ac yn gyfrifol fel dinasyddion gweithgar, llawn parch o fewn cymuned gynhwysol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
I annog sgiliau creadigol, beirniadol a chydweithredol, gan dderbyn heriau a dathlu cyflawniadau pob disgybl ac aelod staff.
I sefydlu cymuned ddysgu ble mae’r holl ddisgyblion a staff yn hyderus i rannu eu syniadau, i gymryd risgiau ac i fyfyrio, tra’n derbyn gwybodaeth a sgiliau newydd i herio eu hunain i gyflawni’r safonau uchaf.
Ysgol Rhyd y Llan
Llanfaethlu
Caergybi
Ynys Môn
LL65 4PQ
Ffon: 01407 887922
Ebost: 6602227_pennaeth.rhydyllan@hwbcymru.net
Pennaeth: Mrs Nia Lloyd Thomas, B.Add. Anrhydedd