Dosbarth cymysg o 30 o blant Meithrin a Derbyn yw’r dosbarth melyn. Mrs Ceri Parry yw ein athrawes ac mae Miss Caryl a Mrs Wyn yn ein cynorthwyo yn y dosbarth.
Mae llawer o ardaloedd lliwgar yn y dosbarth sy’n ein galluogi i gymdeithasu, datblygu sgiliau a chael hwyl!
Mae gennym ardal chwarae tu allan sy’n cysylltu gyda’r dosbarth. Rydym yn defnyddio’r ardal allan er mwyn datblygu pob math o sgiliau!
Ein thema ar gyfer tymor yr Haf yw Môr a Mynydd.
Dyma gip o weithgareddau y dosbarth melyn syn deillio o’r thema.
Cychwynom y thema trwy gyflwyno stori am griw gweithgar o forladron prysur. Buom yn edrych ar y math o wisgoedd y byddai mor ladron wedi eu gwisgo cyn mynd ati i gynllunio gwisgoedd ein hunain.
Roedd llawer iawn o weithgareddau ‘Môr ladron’ o gwmpas y dosbarth!
Cawsom hwyl cyn y Nadolig yn dilyn thema ‘Nadolig Lliwgar Sion Corn’.
Dyma gip o’r hyn y buom yn wneud yn y dosbarth ac yn yr awyr agored yn deillio o’r thema.
Daeth Cledwyn y Corrach yn ol i’r dosbarth Melyn eto eleni i rannu ei neges o ewyllys dda! Roedd Cledwyn yn fodlon rhannu ei siocled, felly i ffwrdd a ni ar antur i chwilio amdanynt!!
Mae’r Nadolig yn gyfnod lliwgar dros ben! Roedd y dosbarth wedi ei orchuddio mewn gliter a gleiniau llachar wrth i ni greu pob math o addurniadau Nadolig.
Ein thema ar gyfer y tymor cyntaf eleni yw ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’. Rydym wedi bod yn trafod ein teulu, ffrindiau, ein cartref a’r ardal leol. Mae llawer o’r gwaith yn deillio o storiau cyfarwydd.
Ysgol Rhyd y Llan
Llanfaethlu
Caergybi
Ynys Môn
LL65 4PQ
Ffon: 01407 887922
Ebost: 6602227_pennaeth.rhydyllan@hwbcymru.net
Pennaeth: Mrs Nia Lloyd Thomas, B.Add. Anrhydedd