Ysgol Rhyd y Llan Logo Cartoon Children in Ysgol Rhyd y Llan Uniform

Croeso i newyddion diweddar Ysgol Rhyd y Llan, Mawrth 2021!

Wedi’r Nadolig, parhau i weithio o bell fu hanes disgyblion Ysgol Rhyd y Llan, ond pleser o’r mwyaf oedd eu croesawu i gyd yn ôl i’r safle ar Fawrth 17.  Roedd pawb wedi methu ei gilydd ac wedi cyffroi cael gweld ffrindiau wyneb yn wyneb.

Un o’r gweithgareddau cyntaf a fu i ni fel Ysgol gyfan oedd codi arian at elusen ‘Comic Relief’.  Fe ddaeth pawb i’r Ysgol ar y dydd Gwener hwnnw yn gwisgo coch neu gyda ‘gwallt gwirion’, fe gasglwyd £91 a diolchwn i bawb sydd wedi cyfrannu.

Ni fydd llawer o gyfle i gystadlu mewn Eisteddfodau arferol eleni, ond mae Lliwen Davies a Cerys Wheldon Williams wedi cymryd rhan yn Eisteddfod Rhithiol William Mathias, da iawn nhw am gadw’r traddodiad o gystadlu i fynd!

Rydym yn hynod o lwcus o’n gwirfoddolwyr, ac mae ein diolch yn fawr i Taid Alis Boulderstone, Mr. Emyr Jones am gymryd yr amser i blannu coed ar dir yr Ysgol.
Rydym hefyd wedi bod yn gwneud ychydig o waith y tu ôl i’r llenni gyda cwmni o’r enw ‘Delwedd’ i lunio gwefan newydd i’r Ysgol.  Mae’n braf cael cyhoeddi ei bod nawr yn fyw ac y bydd gwybodaeth defnyddiol yn cael ei uwchlwytho yn reolaidd.  Os oes ganddoch ddiddordeb, ewch am sbec i www.ysgolrhydyllan.cymru
 

Cysylltwch a ni

Ysgol Rhyd y Llan
Llanfaethlu
Caergybi
Ynys Môn
LL65 4PQ

Ffon: 01407 887922
Ebost: 6602227_pennaeth.rhydyllan@hwbcymru.net
Pennaeth: Mrs Nia Lloyd Thomas, B.Add. Anrhydedd